Ble
mae Cribyn?: Mae ar y B4337 rhwng pentrefi temple
Bar a Llanwnnen; wrth deithio o Aberaeron at Lanbed tro
i'r dde ar sgwâr Temple Bar os ti'n teithio o gyfeiriad
Llanbed.
Pam
Cribyn?: Daw enw'r pentref o'r gair Cymraeg crib
sy'n golygu top neu gopa. Mae'n debyg bod olion o bobl
yn byw yn yr ardal yn mynd nôl i'r Oes Haearn yn hen
Gaerau Cribyn Clotas, Caer Maesmynach a Chastell Moeddyn.
Y rhan hynaf o bentref Cribyn yw ardal Felin Hafodwen a
Penlancapel.
Faint
sy'n byw yn Cribyn?: Mae'r pentre'n rhan o blwyf
Llanfihangel Ystrad (Ward Cribyn), ac yn 2004 roedd y ward
yn cynnwys o 136 o gartrefi a 291 o bleidleiswyr.
Beth
sy'n digwydd yn Cribyn?: Er mai pentre bach yw
Cribyn o ran poblogaeth mae
llawer iawn o bethau'n digwydd yno. Clicia ar y dolenni
ar ochr chwith a dde y dudalen i ffeindio mas!
Ble
alla i siopa?: Yn anffodus mae Siop a Swyddfa Bost
Cribyn wedi cau ers rhai blynyddoedd ond mae siopau Ystrad
a Felinfach yn ddigon agos. Tafarn y Fronfelen yw'r dafarn
agosaf at Gribyn yn Nyffryn Aeron.
Ble
alla i gael mwy o wybodaeth am Cribyn?: Clicia
ar y dolenni ar ochr chwith, dde a gwaelod y dudalen i gael
mwy o wybodaeth am y pentre a'r ardal gyfan, a
cofia ddarllen y calendr
digwyddiadau. |