|
Ble
mae Dihewyd?: Mae ar y B4342 rhwng pentrefi Ystrad
Aeron a Llanarth; tro i'r chwith ar sgwâr Ystrad os
ti'n teithio o gyfeiriad Llanbed.
Pam
Dihewyd?: Daw enw'r pentref o'r hen air Cymraeg
diheuyd sy'n golygu dyhead - dyhead neu awydd am
le dymunol i fyw. Yr hen enw ar eglwys Dihewyd oedd Llanwyddalus,
sydd wedi arwain at enwi Ffair Dalis, Heol Gwyddalis, Bryndalis,
Ffynnon Dalis ayb. Mae cyfeiriad at y ffair enwog yn 1570
fel ffair Llanvidales in Dyhewed.
Faint
sy'n byw yn Dihewyd?: Mae'r pentre'n rhan o blwyf
Llanfihangel Ystrad (Ward Dihewyd), ac yn 2004 roedd y ward
yn cynnwys o 126 o gartrefi a 256 o bleidleiswyr.
Beth
sy'n digwydd yn Dihewyd?: Er mai pentre bach yw
Dihewyd o ran poblogaeth mae
llawer iawn o bethau'n digwydd yno. Clicia ar y dolenni
ar ochr chwith a dde y dudalen i ffeindio mas!
Ble
alla i siopa?: Yn anffodus mae Siop Dihewyd wedi
cau ers rhai blynyddoedd ond mae siopau Ystrad a Felinfach
yn ddigon agos.
Ble
alla i gael mwy o wybodaeth am Dihewyd?: Clicia
ar y dolenni ar ochr chwith, dde a gwaelod y dudalen i gael
mwy o wybodaeth am y pentre a'r ardal gyfan, a
cofia ddarllen y calendr
digwyddiadau. |
Ymgyrch
Dairygold >>
mwy
Trin
Gwallt gan Catrin >>
mwy
Cylch
Ti a Fi Dihewyd >>
mwy
Clwb
Ieuenctid Dihewyd >>
mwy
Help
for Welsh learners using
this site >>
mwy
Canlyniadau
Eisteddfod Dihewyd 2005 >>
mwy
Lluniau
o Eisteddfod Dihewyd 2005
>>
mwy
|