|
Ble
mae Felinfach?: Ar y brif hewl rhwng trefi Llanbedr
Pont Steffan (Llanbed) ac Aberaeron.
Pam
Felinfach?: Mae'r pentre'n lle naturiol i gael
melin gan ei fod mewn man canolog ar lawr y Dyffryn, ac
roedd melin yn arfer bod y tu ôl i ble mae hen sied
y cop yn sefyll nawr.
Faint
sy'n byw yn Felinfach?: Mae'r pentre'n rhan o blwyf
Llanfihangel Ystrad (Ward Felinfach), ac yn 2004 roedd y
ward yn cynnwys o 304 gartrefi a 579 o bleidleiswyr.
Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Felinfach yn byw yn un o'r
ddwy stâd sydd yn y pentre, sef Bro Henllys a Bryn
Salem.
Beth sy'n digwydd yn Felinfach?: Hwn yw
pentref mwyaf Dyffryn Aeron o ran poblogaeth ac mae
nifer o glybiau a chymdeithasau yn cwrdd yn Felinfach. Clicia
ar y dolenni ar ochr chwith a dde y dudalen i ffeindio mas!
Ble
alla i siopa?: Mae'r pentre'n cynnal dwy siop,
sef Siop y Pentref a'r Swyddfa Bost. Mae siop drin gwallt
Fanw a Tess hefyd yng nghanol y pentre, a Chyflenwyr Cig
Moch Aeron wrth fynedfa Bryn Salem.
Ble
alla i gael mwy o wybodaeth am Felinfach?: Clicia
ar y dolenni ar ochr chwith, dde a gwaelod y dudalen i gael
mwy o wybodaeth am y pentre a'r ardal gyfan, a
cofia ddarllen y calendr
digwyddiadau.
|
Ffair
Haf Cae Chwarae a Chlwb Pêl-droed Felinfach >>
mwy
Ymgyrch
Dairygold
>>
mwy
Taith
Dyfed a Meinir >>
mwy
Merched y Wawr Felinfach >>
mwy
Clwb
Coets Felinfach >>
mwy
gwefan
CFFI Felinfach >>
mwy
Help
for Welsh learners
using this site >>
mwy
gwefan
Bro251
>>
mwy
gwefan
Plwyf Llanwenog >>
mwy
|