|
Ble mae Ystrad Aeron?: Mae pentref Ystrad
Aeron ar y brif hewl rhwng trefi Llanbedr Pont Steffan (Llanbed)
ac Aberaeron.
Pam
Ystrad Aeron?: Ystyr y gair "ystrad"
yw llawr y dyffryn, ac mae'r "Aeron" yn dod wrth
gwrs o Afon Aeron sy'n llifo drwy'r dyffryn. Aeron oedd
duwies rhyfel y Celtiaid.
Faint
sy'n byw yn Ystrad?: Mae'r pentre'n rhan o blwyf
Llanfihangel Ystrad (Ward Felinfach), ac yn 2004 roedd y
ward yn cynnwys 304 o gartrefi a 579 o bleidleiswyr.
Beth
sy'n digwydd yn Ystrad?: Mae'n ganolfan i lawer
o bobol Dyffryn Aeron achos tafarn lewyrchus y Vale, a'r
ffaith mai fan hyn mae canolfan Eglwys Plwyfi Llanfihangel
Ystrad a Nantcwnlle. Ystrad yw'r pentre agosaf at Theatr
Felinfach, sydd ar yr hewl rhwng y pentre a Ciliau Aeron.
Clicia ar y dolenni ar ochr chwith a dde y dudalen i ffeindio
mas
mwy am beth sy'n digwydd yn y pentre!
Ble
alla i siopa?:
Mae garej Tim Davies yn gweithredu fel siop i'r pentref,
a'r siopau eraill agosaf yw siopau Felinfach. Mae gan Ystrad
ei busnesau ei hunan, sef canolfan Amaethwyr Clunderwen
a Cheredigion (y Cop) a busnes gwerthu ceir John Bevan.
Ble
alla i gael mwy o wybodaeth am Ystrad?: Clicia
ar y dolenni ar ochr chwith, dde a gwaelod y dudalen i gael
mwy o wybodaeth am y pentre a'r ardal gyfan, a
cofia ddarllen y calendr
digwyddiadau.
|
Ffair
Haf Cae Chwarae a Chlwb Pêl-droed Felinfach >>
mwy
Taith
Dyfed a Meinir >>
mwy
Clwb Coets Felinfach >>
mwy
gwefan
CFFI Felinfach >>
mwy
Help
for Welsh learners using
this site >>
mwy
Ymgyrch
Dairygold
>>
mwy
gwefan
Plwyf Llanwenog >>
mwy
|